Sut yn y byd wyt ti fod i dyfu fyny a phopeth o dy gwmpas di'n cwympo’n ddarnau?

Dyna'r cwestiwn mawr i Pwdin Evans, sydd wedi cael llond bol o’i rieni a’i lys rhieni gwallgo a phopeth arall sydd gan berson ifanc i boeni amdano yn y byd. Mae’n heglu hi ar antur epig i’r gofod i chwilio am atebion a’i gyfnither coll Petula. 

National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August012 sy’n uno i ddod ag addasiad newydd o’r cynhyrchiad anhygoel gan Fabrice Melquiot. Wedi ei chyfarwyddo gan Mathilde López a sgript amlieithog gan Daf James, sy’n gyfuniad difyr o’r Gymraeg, Saesneg a rhywfaint o Ffrangeg.

Cyfuniad cofiadwy a swreal o gomedi tywyll ac antur. Gwledd weledol am berthynas, iaith a chariad. Bydd Petula’n wahanol i un rhywbeth rwyt ti wedi ei brofi o’r blaen!

 

Gwyliwch y Trelar BSL a dewch o hyd i'n mwy am hygyrchedd yma.

Edrych yn yr lluniau cynhyrchu